Celf ddirywiedig

Clawr catalog yr arddangosfa 'Celf Ddirywiedig', 1937, a drefnodd y Natsïaid. Mae'r clawr yn dangos ffotograff o gerflun 'Y dyn newydd' gan Otto Freundlich, Iddew a lofruddiwyd ganddynt yng Ngharchar Gwersyll Majdanek, Gwlad Pwyl.

Roedd Celf Ddirywiedig (Almaeneg: Entartete Kunst, Saesneg: Degenerate art) yn derm sarhaus a defnyddiwyd gan y Natsïaid i ddisgrifio celf fodern.[1]

Yn ystod rheolaeth Adolf Hitler a'r Natsïaid yn y 1930au a 1940au cafodd gelf fodern ei gwahardd am beidio bod yn 'Almaenig go iawn', os oedd wedi'i chreu gan arlunwyr Iddewig neu gomiwnyddol, os oedd yn haniaethol (abstract), neu os nad oedd yn dangos ffigyrau ac elfennau fel yn gelf draddodiadol, glasurol.

Cafodd yr arlunwyr a gyhuddwyd o fod yn 'ddirywiedig' eu gwahodd o'u swyddi fel athrawon celf ac atal rhag arddangos eu gwaith neu'i werthu.

Malwyd llawr o'r darluniau a cherfluniau. Hefyd, llosgwyd llyfrau roedd y Natsïaid yn meddwl oedd yn cyfleu syniadau Iddewig neu gomiwnyddol yn cynnwys llawer o glasuron llenyddiol a gwaith gwyddonol fel Sigmund Freud ac Albert Einstein. Estynnwyd y gwaharddiadau i gynnwys cerddoriaeth fel Jazz, y Natsïaid yn ei gwrthwynebu am iddi gael ei chreu gan bobl o dras Affricanaidd. Gwahoddwyd ffilmiau a dramâu theatr neu eu sensro'n drwm.

Llwyddodd nifer o arlunwyr dianc yr Almaen ac Awstria rhag ofn iddynt gael eu carcharu neu ladd. Ond gafodd llawr o arlunwyr a llenorion eraill, fel Iddewon, pobl hoyw, sipsiwn, pobl gyda phroblemau meddyliol, comiwnyddion, rhyddfrydwyr ac aelodau o grwpiau crefyddol fel Tystion Jehovah eu hanfon i gwersylloedd carchar i'w lladd.[2][3]

  1. Spotts, Frederic (2002). Hitler and the Power of Aesthetics. The Overlook Press. ISBN 1-58567-507-5.
  2. Shttp://www.vam.ac.uk/content/articles/e/entartete-kunst/
  3. Shttp://www.geschkult.fu-berlin.de/en/e/db_entart_kunst/index.html

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search